Iechyd a Llesiant ar gyfer Cymunedau Byddar yng Nghymru: Cwmpasu ar gyfer Arolwg Cymru gyfan

Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r ymddygiadau iechyd a’r ffactorau a all helpu neu rwystro gallu’r gymuned b/Byddar i gynnal iechyd yn y DU, ac yn benodol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sydd yn deillio o adolygiad trwyadl o’r llenyddiaeth ac astudiaeth beilot ansoddol fechan a edrychodd ar (1) y ffactorau sy’n rhwystro a chaniatáu i unigolion Byddar gadw’n iach, a (2) gweithredoedd posib ar gyfer gwahanol grwpiau proffesiynol (e.e. awdurdod lleol, cynllunio, deunyddiau hyrwyddo iechyd, gwasanaeth iechyd fel fferyllydd, Meddygon Teulu, gofal ysbyty). Amcan y gwaith hwn yw helpu cyfarwyddo gweithredoedd tuag at Gymru fwy iach, mwy unedig a mwy cyfartal, gan ymateb i ddyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.